P-04-558 GWAHARDD E-SIGARÉTS I BOBL IFANC O DAN 18 OED

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym ni, drigolion Cymru, sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd E-Sigaréts i bobl ifanc o dan 18 oed.

 

Mae E-sigaréts wedi dod yn hawdd i’w prynu mewn siopau neu orsafoedd petrol ac mae pobl ifanc o dan 18 oed yn mynd yn gaeth i nicotin. Credaf y bydd hyn yn creu mwy o smygwyr dan oed ac yn cynyddu nifer y smygwyr yng Nghymru.

 

Prif ddeisebydd:  Mohammed Sarul Islam

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 11